Mae dy air yn abl fy arwain
Mae dy air yn abl i'm harwain

(Melusder y gair)
1,2,(3),4.
Mae dy air yn abl i'm harwain
  Drwy'r anialwch mawr ymlaen,
Mae e'n golofn olau, eglur,
  Weithiau o niwl, ac weithiau o dân;
Mae'n ddi-ble ynddo fe,
Fwy na'r ddaear, fwy na'r ne'.

'Rwyf yn meddwl am yr oriau
  Caffwyf funud o'th fwynhau,
Ac mae atsain pell dy eiriau'n
  Peri imi lawenhau:
O!'r fath wledd, draw i'r bedd,
Fydd cael edrych ar dy wedd.

Dyna'r pryd 'rwyn dechreu 'mywyd,
  Pan y caffwyf wel'd yn glir
Im' gael prawf, ac y caf ragor,
  O rawnsypiau'r Ganaan bur:
Dyma'm gwledd, dyma'm hedd,
Dyma'm concwest ar y bedd.

O gad imi'n fuan, Arglwydd,
  Glywed geiriau distaw'r ne',
Rhag im' redeg, heb im' wybod,
  Ar ryw law i maes o'm lle;
Yn dy law, heb ddim braw,
Cerdda' i'n union yma a thraw.

             - - - - -

Mae dy air yn abl fy arwain
  Drwy'r anialwch mawr ymlaen,
Mae e'n golofn olau, eglur,
  Weithiau o niwl, ac weithiau o dân;
Mae'n ddi-ble ynddo fe,
Fwy na'r ddaear, fwy na'r ne'.

Da i mi fod yr addewid
  Wedi ei rhoddi gan fy Nuw,
A bod gair o enau'r Brenin,
  Uwch gelynion o bob rhyw;
Ei 'ddewid Ef, gadarn, gref,
Arwain eiddil gwan i'r nef.
Drwy :: Trwy
ymlaen :: yn mlaen
Mae e'n golofn :: Mae yn golofn
funud :: funyd
eiriau'n // Peri :: eiriau // 'N peri

William Williams 1717-91

Tonau [878767]:
Arnsberg / Neander (Joachim Neander 1650-80)
Bryn Gilead (John Roberts 1807-76)
Groeswen (John Ambrose Lloyd 1815-74)
Llanbadarn (R S Hughes 1855-93)
Revel (<1905)
Wyddgrug (J Ambrose Lloyd 1815-74)

gwelir:
  Aros Iesu yn y rhyfel
  Da i mi fod yr addewid
  Dy air sy ddigon i fy arwain

(The sweetness of the word)
 
  Thy name is able to lead me
    Through the great desert onward,
  It is a bright, clear pillar,
    Sometimes of cloud, and sometimes of fire;
It is doubtless in it,
Greater than the earth, greater than heaven.

  I think of the hours
    I have a minute of enjoying thee,
  And the distant echo of thy words
    Cause me to rejoice:
Oh, the kind of feast, beyond the grave,
It will be to look on thy face!

  That's when my life starts,
    When I get to see clearly
  For me to get a taste, and I will get more,
    Of the grape-clusters of pure Canaan:
This is my feast, this is my peace,
This is my conquest over the grave.

  Oh let me soon, Lord,
    Hear the quiet words of heaven,
  Let I run, without my knowing,
    On some hand out of my place;
In thy hand, without any alarm,
I will walk straightly here and there.

                  - - - - -

Thy name is able to lead me
  Through the great desert onward,
It is a bright, clear pillar,
  Sometimes of cloud, and sometimes of fire;
There is doubtless in it,
More than the earth, more than heaven.

It is good to me that the promise is
  Given by my God,
And that a word from the mouth of the King is,
  Above enemies of every kind;
His promise, firm, strong,
Leading a feeble weak one to heaven.
::
::
::
::
::

tr. 2011,14 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~